Paid a deffro, paid a mentro,
Dwi moen amser i wylio dy gwsg.
Dwi moen amser cyn i ti fynd.
Paid a wylio trwy dy ddwylo,
Dwi moen amser i dderbyn dy wen,
Dwi moen amser cyn i ti fynd,
Ond amser, sgen ti ddim.
Paid a siarad geiriau ymladd,
Dwi moen amser i glywed dy lais
Dwi moen amser cyn i ti fynd.
Paid a teithio, paid a brysio,
Mae 'na amser i aros fan hyn,
Mae 'na amser cyn i ti fynd
Ond amser, sgen ti ddim.
Dwi moen aros gyda ti
perffaith.
No comments:
Post a Comment